P-04-609 Cefnogwch Fusnesau Bach - Cefnogwch ein Strydoedd Mawr

Testun y ddeiseb

Rydym yn galw ar i Gynulliad Cenedlaethol Cymru annog Llywodraeth Cymru i ymestyn y gostyngiad i fusnesau bach y tu hwnt i fis Mawrth 2015. Yn ogystal, rydym yn gofyn am i'r penderfyniad gael ei wneud a'i gyhoeddi cyn gynted â phosibl—yn ddelfrydol, cyn diwedd 2014, fel nad oes oedi o ran cynllunio a datblygu busnes.

Gwybodaeth ychwanegol:

Busnesau bach yw asgwrn cefn Canol Trefi a'n Strydoedd Mawr. Mater o frys yw hwn, o ran cefnogi adfer busnes a chychwyn busnesau, ac o ran atal y dirywiad yn ein trefi a'n cymunedau.

 

Prif ddeisebydd:   Lynn Wilson

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 20 January 2015

 

Nifer y llofnodion: 47